Yswiriant Cartref
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi diogelu eich cartref a'ch eiddo gwerthfawr yn ddigonol - bydd ein cyngor annibynnol a'n gwasanaeth ardderchog yn golygu y gallwch fod yn hyderus bod gennych yr yswiriant cywir.

"Ni allaf cymeradwyo broceriaid yswiriant Delwyn Griffiths yn ddigonol. Mae nifer o gwmnïoedd yn honni eu bod yn rhoi gwasanaeth gwych i’w cwsmeriaid, ond nid yw bob un o rhain yn gwireddu hyn fel y cwmni hwn.”
A. Evans
Nid yw'n bryd adnewyddu eich yswiriant eto?
Rhowch wybod pryd y mae angen i chi adnewyddu eich yswiriant er mwyn rhoi cyfle i ni chwilio am bris gwell na'ch yswiriwr presennol.
P'un a ydych yn byw mewn fflat ag un ystafell wely neu blasty â naw ystafell wely, does unman yn debyg i'ch cartref chi. Ni waeth pa mor fawr neu pa mor hen yw eich cartref, gallwn ddod o hyd i bolisi yswiriant cartref sy'n eich diogelu'n ddigonol.
Fel arbenigwyr annibynnol, gallwn ddod o hyd i yswiriant beth bynnag yw'r sefyllfa – os ydych yn denant, neu'n dymuno cael yswiriant ar gyfer cartref gwyliau, ail gartref neu adeilad rhestredig, neu os oes gennych amgylchiadau arbennig, mae gennym brofiad pendant o ddod o hyd i'r polisi cywir.
Yn ôl gwaith ymchwil diweddar nid oes gan 80% o bobl yswiriant cartref digonol. Mae ein harbenigwyr yn treulio amser yn sicrhau bod eich cartref a'ch eiddo wedi'u hyswirio'n briodol - felly gallwch fod yn hyderus bod eich yswiriant yn eich diogelu'n ddigonol.
- Dyma gyfle i gael cyngor clir a diduedd gan arbenigwr sy'n gallu esbonio'n glir y gwahanol bolisïau sydd ar gael.
- Rydym yn chwilio'r farchnad ar eich rhan i ddod o hyd i'r polisi yswiriant gorau am y pris gorau.
I gael dyfynbris heddiw heb unrhyw reidrwydd i'w dderbyn, ffoniwch 01239 615040 neu llenwch y ffurflen isod